PET(4) SAR 20

 

Y Pwyllgor Deisebau

Ymgynghoriad ar ddeiseb P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Ymateb gan Cyfundeb Eglwysi Annibynnol Gorllewin Caerfyrddin

 

AT SYLW:  Clerc y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Ymateb i ymgynghoriad - Na ddylai’r lluoedd arfog fynd i ysgolion i recriwtio – ar ran Cyfundeb Eglwysi Annibynnol Gorllewin Caerfyrddin.

 

Fel Cyfundeb, hoffem wneud y sylwadau isod:

 

Prydain yw’r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd, ac un o ddim ond 20 drwy’r byd, sy’n caniatáu i’r lluoedd arfog i recriwtio pobl o dan 18 oed. Fel rhan o’r broses, maent yn cael mynediad i ysgolion. Credwn y dylid rhoi stop ar hyn oherwydd:

 

·           Mae pobl o dan 18 yn dal i fod yn blant yng ngolwg y gyfraith.

·           Rhaid i’r sawl sy’n arwyddo cytundeb i ymuno yn 16 neu 17 oed wasanaethu tan ei fod 22 oed. 

·           Ni ddylid clymu oedolyn gan gytundeb a wnaed pan oedd yn dal i fod yn blentyn.

·           Mae’r wybodaeth a gyflwynir i blant yn annigonol a chamarweiniol; yn rhamanteiddio rhyfel gan wneud yn fach o’r perygl i fywyd y sawl sy’n ymuno â’r lluoedd arfog; yn rhoi’r pwyslais ar “ddysgu crefft” ar draul y ffaith mai priod waith milwr yw bod yn barod i ladd y gelyn.

·           Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol yn feirniadol o’r modd mae Prydain yn recriwtio plant.

·           Mae’r MOD yn cydnabod bod degau o filiynau o bunnau’n cael eu gwastraffu ar hyfforddi plant, sydd wedyn yn troi cefn ar yrfa yn y lluoedd arfog.